Refferendwm UE: Pobl Cymru`n pleidleisio
- Cyhoeddwyd

Mae pobl Cymru wedi bod yn bwrw eu pleidlais yn y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o`r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y 3,578 o ganolfannau pleidleisio yng Nghymru yn agored rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Iau.
Bydd canlyniadau'n cael eu cyfri' ym mhob un o'r 22 o ardaloedd cyngor dros nos, ac yna canlyniad Cymru gyfan yn cael ei gyhoeddi yng Nghei Connah.
Mae disgwyl i ganlyniad terfynol y DU gael ei gyhoeddi fore Gwener.
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi bod yn ymgyrchu dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd
Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru ac sydd wedi bod yn ymgyrchu i adael yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio
Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros aros yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio
Andrew RT Davies arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac yn rhan o'r ymgyrch i adael yn paratoi i fwrw ei bleidlais
Bydd dau ddewis ar y papur pleidleisio - aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, neu adael.
Gallwch ddilyn yr holl ganlyniadau wrth iddyn nhw gyrraedd ar ein llif byw, fydd yn dechrau ar ôl i'r blychau pleidleisio gau ac yn parhau drwy'r nos.
Gallwch hefyd wrando ar BBC Radio Cymru neu wylio ar S4C.