Refferendwm UE: Y cyfri'n mynd rhagddo
- Cyhoeddwyd

Mae'r blychau pleidleisio wedi cau yn y refferendwm i benderfynu a fydd y DU yn aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth y 3,578 o ganolfannau pleidleisio yng Nghymru agor am 07:00 ddydd Iau, gan gau am 22:00
Bydd canlyniadau'n cael eu cyfri' ym mhob un o'r 22 o ardaloedd cyngor dros nos, ac yna canlyniad Cymru gyfan yn cael ei gyhoeddi yng Nghei Connah, Sir Fflint rhywbrydd ddydd Gwener.
Roedd mwy na 2.2m o bobl Cymru yn gymwys i bleidleisio.
Mae disgwyl i ganlyniad terfynol y DU gael ei gyhoeddi fore Gwener a hynny o Neuadd y Dref, Manceinion.
Fe allai'r canlyniadau cyntaf yn ôl y Comisiwn Etholiadol gyrraedd mor fuan a 00:30.
Y ffefrynnau i gyhoeddi yn gyntaf yw Sunderland a bwrdeistref Wandsworth yn Llundain.
Doedd yna ddim arolwg barn 'exit' o'r math sy'n arfer digwydd mewn etholiad cyffredinol.
Fe wnaeth YouGov gymryd arolwg o 5,000 o bobl oedd yn awgrymu fod cefnogaeth i Aros yn 52%, gyda Gadael ar 48%.
Dywedodd arweinydd UKIP Nigel Farage wrth Sky News "mae'n edrych fel y bydd yr ochr Aros yn ennill o drwch blewyn.
Ar y farchnad arian fe wnaeth y bunt gryfhau yn erbyn y dollar, arwydd fod y farchnad arian yn credu y byddai'r bleidlais o blaid Aros.
Gibraltar oedd y lle cyntaf i gyhoeddi. Fe wnaeth 96% bleidleisio o blaid aros, ond doedd y bleidlais ddim yn annisgwyl.
Roedd dau ddewis ar y papur pleidleisio - aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, neu adael.
Dywedodd Arglwydd Peter Hain, oedd yn ymgyrchu o blaid aros, wrth BBC Cymru ei fod o'n "obeithiol" fod mwyafrif o etholwyr Cymru wedi pleidleisio i aros.
"Mae tystiolaeth ac adroddiadau rydym yn ei dderbyn o amgylch Cymru, yn enwedig yng nghadarnleoedd y cymoedd, yn awgrymu fod y bleidlais Aros yn gryfach na'r yn yr oeddwn yn credu."
Ychwanegodd fod arolwg o bleidleisiau post yn awgrymu fod yr ymgyrch i Adael wedi bod ar y blaen gan fod y rhan fwyaf o'r rhain wedi eu postio wythnosau yn ôl a bod y gogwydd o blaid yr ochr Aros wedi "bod yn fwy diweddar."
Ond ar y llaw arall, cred arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, fod yr ochr i Adael wedi ennill.
"Mae'r tywydd wedi bod yn berffaith. Rydym wedi cael ymgyrch wych. Mae'r momentwm wedi bod gyda ni.
"Mae ein hygyrch i sicrhau fod pobl yn pleidleisio wedi bod yn llwyddiannus.
"Rwy'n credu y bydd Cymru yn pleidleisio i adael," gan ychwanegu ei fod yn credu eu bod wedi gwneud yn dda yng nghymoedd y de."
Gallwch ddilyn yr holl ganlyniadau wrth iddyn nhw gyrraedd ar ein llif byw, fydd yn parhau drwy'r nos.
Gallwch hefyd wrando ar BBC Radio Cymru neu wylio ar S4C.