David Cameron yn ymddiswyddo fel prif weinidog yn yr hydref
- Cyhoeddwyd
Wrth ymateb i'r ffaith fod y DU wedi penderfynu gadael yr UE, mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi y bydd yn ildio`r awennau yn yr hydref.
Fe fydd David Cameron yn camu o'r neilltu mewn tri mis, a hynny erbyn cyfnod cynadleddau'r hydref.
Dywedodd Mr Cameron mai'r Prif Weinidog newydd fydd yn dechrau'r broses o adael yr UE, sy'n golygu y bydd hi'n rhai wythnosau, neu fisoedd cyn y bydd unrhywbeth yn digwydd.
Fe ddiolchodd Mr Cameron i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch dros aros yn yr UE, ac fe longyfarchodd yr ochr oedd yn dymuno gadael ar eu llwyddiant yn y refferendwm.
Mae mwyafrif o bobl Cymru hefyd wedi pleidleisio dros adael yr undeb.
Fe bleidleisiodd 854,572 (52.5%) o bobl Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu â 772,347 (47.5%) oedd am aros.