Pryder wrth godi fferm wynt newydd
Mae pobl ardal Cwmgors wedi bod yn son am eu pryderon wrth i gwmni o Iwerddon adeiladau fferm wynt ar Fynydd y Betws.
Daeth dros 100 i gyfarfod cyhoeddus yng nghlwb rygbi Cwmgors nos Lun.
Mae nifer yn poeni nad yw'r ffyrdd lleol yn ddigon da i ddygymod â'r traffig fydd yn cludo deunyddiau i fferm wynt gyfagos.
Bydd 15 o dyrbinau yn cael eu codi ar Fynydd y Betws yn Sir Gaerfyrddin.
Ond yn ôl pobl leol dyw'r A474 ddim yn addas ar gyfer lorïau trymion.
Roedd Aled Scourfield yn y cyfarfod ar ran y Post Cyntaf.