Baner o Ynys Môn yn Llundain
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Langaffo ar Ynys Môn yn mynd â baner ei hun draw i Lundain ddydd Gwener.
Nid y Ddraig Goch fydd hi ond baner y maen nhw wedi'i llunio eu hun mewn cystadleuaeth i nodi 200 mlynedd Cymdeithas Ysgolion Eglwysi Cymru a Lloegr.
Y wobr yw taith i Abaty Westminster.
Mae Ysgol Llangaffo yn un o 300 o ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru.
Iola Wyn gafodd air gyda Manon Morris Williams, pennaeth yr ysgol.