BBC Cymru Fyw

Ffrainc yn cynnig her newydd i Mike Phillips

Dywed mewnwr Cymru Mike Phillips ei fod dal yn aros i glywed gan ei glwb Bayonne a fydd o ar gael ar gyfer bod yn rhan o garfan Cymru i wynebu Awstralia yng Nghaerdydd ar Ragfyr 3.

Ond er bod Phillips yn derbyn fod symud i Ffrainc yn risg o ran rygbi rhyngwladol, dywedodd mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ei fod yn edrych ymlaen at yr her.

Dywedodd wrth Dylan Griffiths ei fod yn gobeithio y bydd yr her yn ei wneud yn well chwaraewr ac yn well person.