Diwedd i'r pobi wedi 100 mlynedd?

Mae 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i geisio achub busnes adnabyddus ar Ynys Môn.

Ers dros 100 mlynedd, mae Becws Gwalia yn Llangefni wedi bod yn pobi teisennau a bara i drigolion yr Ynys o'r un safle ar Stryd y Bont.

Ond mae perchennog presennol y busnes nawr yn dweud ei bod wedi cael gorchymyn i adael y safle mewn tri mis.

Adroddiad Aled Hughes.