Chaz Davies yn ennill Personoliaeth Chwaraeon y flwyddyn

Cafodd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ei hennill eleni gan enw ac wyneb digon anghyfarwydd.

Chaz Davies yw Pencampwr Supersport y Byd.

Wedi ymgyrch gan gefnogwyr y gamp cafodd y gŵr 24 oed ei wobrwyo mewn seremoni yn Stadiwm Liberty nos Lun.

Tîm Pêl-droed Abertawe gafodd y wobr am dîm y flwyddyn ar ôl esgyn i Uwch Gynghrair Lloegr.

O'r seremoni, adroddiad Gareth Rhys Owen.