BBC Cymru Fyw

Her y Cymry i godi arian i Sport Relief

Bydd nifer o sêr sy'n cynnwys Gethin Jones, Gareth Thomas ac Alex Jones yn rhan o ymgyrch fawr i godi arian at achosion da, ymgyrch Sport Relief 2012.

Mae manylion yr her wedi eu cyhoeddi.

Fe fydd nifer o Gymry yn cystadlu yn erbyn tîm o enwogion o Loegr, Yr Alban ac Iwerddon.

Bydd rhaid i'r sêr redeg, rhwyfo, beicio a hwylio o amgylch Prydain ac Iwerddon.

Adroddiad Alun Thomas.