Canolfan bwyd Cymreig newydd
Gwerthu bwydydd o safon o Gymru yw bwriad canolfan newydd Fferm Ffwrnais yn Nyffryn Conwy.
Fe fydd y ganolfan yn agor mewn ychydig fisoedd.
Mae wedi costio £6 miliwn.
Fe fydd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni a'i dîm yn cyfarfod â chyflenwyr bwyd lleol.
Alwen Eidda o Cywain - sef Cynllun Menter a Busnes - sydd wedi trefnu'r achlysur yng nghanolfan Glastir Llanrwst.
Adroddiad Merfyn Davies.