Trydaru: Dim digon o sylw i Gymru?
Mae cannoedd o filiynau o bobl yn defnyddio gwefan Twitter bob eiliad i rannu newyddion, gwybodaeth a sylwadau o bob math.
Ond does dim lle digonol i Gymru arni mae'n debyg.
Er bod modd canfod pa bynciau llosg sydd dan drafodaeth mewn gwledydd penodol neu ddinasoedd unigol, dyw'r opsiwn hwnnw ddim ar gael i Gymru, ac mi allai ein busnesau ni fod ar eu colled.
Rhodri Llywelyn fu'n holi Dr Jeremy Segrott o Brifysgol Caerdydd.