Llawysgrif Dickens ar siec yn y Llyfrgell Genedlaethol
Dau gan mlynedd ar ôl ei eni, mae un o'r pethau olaf i Charles Dickens erioed ei ysgrifennu i'w weld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn wythnos olaf ei fywyd, roedd yr awdur yn gweithio ar y nofel The Mystery of Edwin Drood.
Cododd siec o'r banc yn Rochester, Caint, sydd erbyn hyn i'w weld yn y llyfrgell.
Roedd y siec am £21 ac wedi ei lofnodi gan Dickens ar Fehefin 6 1870, tridiau cyn iddo farw.
Roedd yn rhan o gasgliad hanesyddol lleol o Sir Benfro ddaeth i'r llyfrgell.
Fe fu Rhodri Llywelyn yn holi'r llyfrgellydd llawysgrifau, Meredudd ap Huw, am i siec a chysylltiadau Cymreig Dickens.