Ymateb Penfro i benderfyniad yr Urdd
Wedi cyhoeddiad Yr Urdd y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghilwendeg ger Boncath ym mhen ucha'r sir mae 'na anghytuno o hyd.
Roedd 'na ddadlau a thrafod wedi bod am leoli'r Eisteddfod yng ngogledd y sir.
Mae rhai o bobol y de wedi eu siomi nad yw'r Eisteddfod wedi manteisio ar y cyfle i roi hwb i'r Gymraeg yn ne'r sir trwy gynnal yr Eisteddfod yno.
Ond yn ôl y trefnwyr, mae'r maes yng Nghilwendeg yn ddelfrydol.
Nia Thomas sy'n holi'r cynghorydd Huw George a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Emyr Phillips.