Beirniadu cyngor am fethu darparu cartref addas
Mae Cyngor Wrecsam wedi cael ei feirniadu am fethu a delio â chais gŵr sydd ag anabledd am dŷ addas.
Roedd y dyn wedi cwyno fod y llofft yn nhŷ cyngor ei fam angen ei atgyweirio ac nad oedd y cartref yn addas ar gyfer person mewn cadair olwyn.
Yn ôl yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus roedd y cyngor yn euog o beidio dilyn ei bolisïau ei hun a bydd yn rhaid iddyn nhw dalu iawndal i'r gŵr a wnaeth y gwyn.
Nia Thomas sy'n holi Elizabeth Thomas o swyddfa'r Ombwdsmon.