Protest melinau gwynt Ynys Môn
Daeth tua 40 o wrthdystwyr i bicedu y tu allan i ffatri yn Llangefni, Ynys Môn, ddydd Iau yn ystod ymweliad â'r safle gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Roedd y protestwyr am i Lywodraeth Cymru gefnogi'u hymgyrch yn erbyn nifer o geisiadau i godi tyrbinau gwynt mewn gwahanol rannau o'r ynys.
Adroddiad Siôn Tecwyn.