Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn anrhydeddu tri
Llai na blwyddyn ers ei sefydlu, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi llwyddo i greu sefyllfa gwbl naturiol i fyfyrwyr a darlithwyr.
Dyna gasgliad un fydd ymhlith y cynta' i gael ei anrhydeddu gan y coleg.
Bydd Dr Meredydd Evans yn ymuno â'r Athro Hazel Walford Davies a'r Athro M Wynn Thomas mewn seremoni arbennig yn Abertawe nos Fawrth i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Coleg.
Cafodd Cemlyn Davies sgwrs gyda Dr Evans.