Fflam Olympaidd Sir Gâr

Er mwyn ceisio denu diddordeb pobl ifanc yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, mae ffagl yn cychwyn ar ei thaith o amgylch Sir Gaerfyrddin yr wythnos hon.

Nid y ffagl go iawn yw hon - ym mis Mai y daw honno yma.

Mae'r ffagl yma wedi ei chynllunio gan un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman a fore dydd Llun, cafodd ei chludo o Ysgol Gyfun Emlyn yng Nghastell Newydd Emlyn i Hendy-gwyn ar Daf.

Iola Wyn fu yn yr ysgol fore dydd Mawrth.

Cyhoeddwyd
Is-adran
Hafan