Dim galw mawr am annibyniaeth

Mae bron i ddwy ran o dair o bleidleiswyr Cymru yn credu y dylai'r Cynulliad gael rhywfaint o ddylanwad dros faint o drethi mae pobl yn ei dalu.

Dyna un o gasgliadau arolwg sy'n cael ei gyhoeddi BBC Cymru ar Fawrth 1.

Dim ond un o bob tri oedd yn awyddus i gadw'r system fel ag y mae hi ar hyn o bryd.

Ymhlith y casgliadau eraill, dim ond 7% oedd o blaid Cymru annibynnol - mae'r ganran yn codi i 12% pe bai'r Alban yn annibynnol.

Alun Thomas gafodd ymateb Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd