Ymateb Carwyn Jones i'r arolwg
Mae mwyafrif o bobl Cymru yn credu y dylai'r Cynulliad gael rhyw fath o rym dros godi trethi yng Nghymru yn ôl arolwg barn a gafodd ei gomisiynu gan BBC Cymru.
Ond mae'r un arolwg yn dangos mai gwan iawn ydi'r gefnogaeth ar gyfer annibyniaeth - 7% yn unig o'r bobl a gafodd eu holi.
Dyw'r ffigwr yn codi fawr ddim os ydi'r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth.
Alun Thomas fu'n trafod y canlyniadau gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.