Profiad anarferol mewn canolfan newydd
Mae 'na ganolfan unigryw yn agor yn Sir y Fflint er mwyn rhoi profiad heb ei ail i fyfyrwyr sydd a'u bryd ar yrfa'n gofalu am anifeiliaid bychain.
Mae'r safle sydd werth bron i £2 miliwn ar gampws Coleg Glannau Dyfrdwy yn Llaneurgain.
Caiff ei agor yn swyddogol ddydd Iau gan y naturiaethwr Iolo Williams.
Rhian Price fu draw yno i gael sawl profiad bach anarferol.