Cynllun Twf yn dathlu'r deg
Mae cynllun TWF sy'n annog rhieni a darpar rieni i drosglwyddo'r iaith Gymraeg i'w plant, yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed.
Mae'n un o brosiectau Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn gweithredu trwy gyfrwng swyddogion maes sy'n gweithio ar hyd a lled Cymru.
Yn y cyfrifiad diwethaf yn 2001- mewn cartrefi lle'r oedd un rhiant yn siarad y Gymraeg - dim ond 40% oedd yn trosglwyddo'r iaith i'r plant.
Beth mae cynllun Twf wedi ei gyflawni felly yn y 10 mlynedd ddiwethaf?
Iola Wyn fu'n holi yn Rhydaman.