Cyfle i glywed oratorio newydd yn y Gymraeg

Roedd 'na ddigwyddiad o bwys yng nghanolfan Galeri, Caernarfon nos Lun.

Y perfformiad cyntaf un o oratorio newydd yn y Gymraeg, Gair Ar Gnawd.

Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan adain gymunedol Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn rhannu'r llwyfan ag unawdwyr corws byd-enwog y cwmni, roedd cantorion amatur o bob rhan o'r gogledd.

Adroddiad Rhian Price.

Cyhoeddwyd