Galw am hawl cymorth i farw ym Mhrydain
Wedi i farnwr benderfynu bod gan ddyn sydd wedi ei barlysu'r hawl i fynd i'r Uchel Lys er mwyn cael caniatâd i ddod â'i fywyd i ben mae BBC Cymru wedi bod yn siarad gydag un wnaeth gynorthwyo ei wraig i farw.
Mae Aled Owen o Ddyffryn Conwy yn dweud bod angen i bobl gael yr hawl i gael cymorth i farw ym Mhrydain.
Aeth Mr Owen a'i wraig Janet a oedd yn ddifrifol wael i ysbyty Dignitas yn Y Swistir i ladd ei hun.
Cafodd Mr Owen ei holi gan yr heddlu wedi'r digwyddiad.
Ar raglen BBC Cymru Taro 9 ar S4C nos Fawrth fe fydd yn son am ei brofiad.
Adroddiad gohebydd y rhaglen Elen Wyn.