Hwb i waith fforensig
Mae dau o heddluoedd Cymru yn gobeithio y bydd uned fforensig newydd yn hwb sylweddol i'w gwaith.
Mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn rhannu labordai er mwyn dadansoddi olion bysedd, olion traed, darnau o wydr a chyffuriau.
Maen nhw'n credu y bydd yr uned yn arbed dros £1m bob blwyddyn ac yn cyflymu'r broses o ddatrys troseddau.
Bu Stuart Ladd o Heddlu De Cymru yn siarad â Gwenllian Grigg ar y Post Cynta fore Mawrth.