Dyfalu am ddyfodol Henson
Mae 'na ddyfalu mawr ynglŷn â dyfodol Gavin Henson fel chwaraewr rygbi, wedi i fwrdd rheoli'r Gleision ei ddiswyddo oherwydd ei ymddygiad ar awyren rhwng Glasgow a Chaerdydd fore Sadwrn.
Ar y Post Cynta fore Mawrth, bu Garry Owen yn holi Gary Samuel - sydd wedi hyfforddi Gavin Henson pan oedd e'n ifanc - a Brynmor Williams, cyn fewnwr Cymru.