BBC Cymru Fyw

Hwb i gerddoriaeth Gymraeg drwy gigs yn Llundain

Cowbois Rhos Botwnnog a Georgia Ruth Williams oedd artistiaid o Gymru fu yn Llundain dros y penwythnos i helpu i ddechrau cynllun newydd i hybu cerddoriaeth Gymraeg yn y ddinas.

Sesiynau Cymru Llundain yw'r teitl swyddogol.

Y cyflwynydd radio Huw Stephens oedd wrth y llyw nos Wener.

Bethan James aeth i'r gig cynta'.