Y Gymraeg o fewn yr Eglwys
Mae llai na 4% o eglwysi Cymru yn cynnal gwasanaeth Cymraeg bob dydd Sul.
Mae adroddiad fydd yn cael ei drafod gan gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ddydd Iau yn rhoi darlun digon truenus o sefyllfa'r iaith o fewn y sefydliad.
Yn ôl yr adroddiad mae dros hanner yr Eglwysi hefyd yn mynd yn groes i gynllun iaith y sefydliad.
Ar raglen y Post Cynta bu Nia Thomas yn holi Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, gan ofyn a oedd o yn credu bod y darlun o'r Gymraeg o fewn yr Eglwys yn un digalon?