Artistiaid o Gymry yn BrynFest yn Llundain dros yr haf
Fe fydd nifer o gantorion ac artistiaid o Gymru a thu hwnt yn perfformio yn Llundain ddechrau mis Gorffennaf wrth i Bryn Terfel gynnal gŵyl bedwar diwrnod yno.
Y cyfansoddwr byd enwog Karl Jenkins, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Gruff Rhys o'r Super Furry Animals ydi rhai o'r enwau fydd ar y rhestr o artistiaid sydd wedi cael ei chyhoeddi ddydd Gwener.
Nia Thomas fu'n holi mwy am yr arlwy gan Bryn Terfel sy'n Efrog Newydd ar hyn o bryd.