Enwebiad i gi sy'n achub bywyd ei feistres
Mae ci o Lanelli wedi cael ei enwebu am anrhydedd gan yr Ymddiriedolaeth Gŵn am eleni.
Ar sawl achlysur, mae'r dachshund Ellie-May wedi achub bywyd ei feistres Yoland Rees-Hopkins.
Mae hi'n dodda' o gyflwr sy'n golygu ei bod hi'n aml yn syrthio'n anymwybodol.
Gareth Glyn fu'n cael yr hanes gan ŵr Yoland, Geraint Hopkins.