Cofio cysylltiad Frongoch â'r IRA

Mae hanes boddi Capel Celyn a rhan o Gwm Tryweryn yn y 1960au yn adnabyddus i nifer ond roedd pennod arwyddocaol yn hanes cenedl arall yn cael ei dathlu yn ardal Frongoch ger Y Bala dros y penwythnos.

Daeth nifer o Wyddelod ynghyd i'r pentre' i gofio'r carcharorion gafodd eu hanfon yno wedi Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916.

Yma y cafodd yr IRA ei sefydlu a Prifysgol Chwyldro oedd enw rhai ar y carchar.

Cafodd Michael Collins ei garcharu yno.

Adroddiad Llyr Edwards.