Erthygl am gyfieithu'n codi ffrae

Mae ffrae wedi codi ynglŷn ag erthygl olygyddol ym mhapur newydd y Western Mail fore Mawrth.

Wedi i'r papur gyhoeddi darn sy'n feirniadol o wario "£400,000 ar gyfieithu holl drafodaethau'r Cynulliad Cenedlaethol", mae nifer o wleidyddion wedi ymateb yn chwyrn.

Mae'r erthygl yn enwi wyth Aelod Cynulliad sydd wedi argymell gwario ar gyfieithu'r cofnod a thrafodaethau bob pwyllgor yn y Cynulliad, ond yn dweud bod hyn yn "foethusrwydd na allwn ni ei fforddio mewn cyfnod lle mae cyllidebau'n cael eu gwasgu".

Dywed y papur ei fod yn gefnogol i hawl aelodau i siarad Cymraeg neu Saesneg yn sesiynau'r Senedd ac i gyfieithu'r cofnod o sesiynau, ond yn dweud bod cyfieithu trafodaethau bob pwyllgor o fewn y sefydliad yn gam yn rhy bell.

Bu Garry Owen yn holi un o'r wyth aelod - Bethan Jenkins AC - ar y Post Cyntaf fore Mawrth.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd