Cyfraniad y Scarlets i'r economi
Mae clwb rygbi rhanbarthol y Scarlets yn cyfrannu £16 miliwn i economi'r ardal.
Dyna mae adroddiad sydd wedi ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r Scarlets yn ei ddweud.
Fe allai'r ffigwr yna ddyblu yn y blynyddoedd nesa'.
Mae hyn yn dilyn pryderon am sefyllfa ariannol y Scarlets.
Mae'r cyfrifon diweddaraf yn dangos dyledion o bron i £2 miliwn.
Adroddiad Aled Scourfield.