Edrych yn ôl ar wythnos yr Urdd
Er gwaetha'r tywydd anffafriol ddechrau'r wythnos mae miloedd o Eisteddfodwyr wedi heidio i Lynllifon yr wythnos hon ar gyfer Prifwyl yr Urdd.
Yn ogystal â'r cymylau glaw fe daflodd trafferthion traffig ei gysgod dros y cystadlu a digwyddiadau'r maes.
Roedd e'n brofiad rhwystredig i nifer o bobl gyda rhai cystadleuwyr yn methu cyrraedd eu rhagbrofion.
Ond wrth i'r Ŵyl dynnu at ei therfyn fe gafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gyda Phrif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones.