Cau'r banc ola yng Nghricieth
Mae perchnogion busnesau a thrigolion Cricieth yng Ngwynedd wedi dweud wrth y Post Cyntaf eu bod nhw'n feirniadol iawn o benderfyniad banc yr HSBC i gau eu cangen yno.
Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd yr un banc ar ôl yn y dref.
Mae HSBC yn dweud bod nifer y defnyddwyr wedi gostwng yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywed y banc bod yn rhaid lleoli canghennau mewn ardaloedd ble maen nhw'n cael eu defnyddio.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth hefyd bod HSBC wedi cadarnhau ddydd Llun y bydd cangen Nefyn a San Clêr hefyd yn wynebu cau.
Mae disgwyl i'r tair cangen gau ym mis Medi.
Adroddiad Alun Rhys.