Blaenoriaethau claf am well triniaeth canser
Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, yn lansio strategaeth i ostwng achosion o ganser a gwella'r gofal ar gyfer pobl sydd â chanser.
Mae'r cynllun pum mlynedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd diagnosis cynnar, llawdriniaethau a thriniaethau llwyddiannus eraill.
Beth yw'r prif bwyntiau sydd angen canolbwyntio arnyn nhw'n gyntaf?
Un sydd wedi cael canser ydi Iona Roberts o Dreffynnon.
Merfyn Davies fu'n ei holi ynglŷn â'r hyn fydde hi'n hoffi ei weld fel y blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.