Dim Cymraeg ar wefan
Os 'da chi'n mynd ar wyliau mae'n bosib iawn eich bod chi'n defnyddio gwefan Tripadvisor i ddarllen neu ysgrifennu adolygiadau gwyliau.
Ond os ydach chi am wneud hynny yn Gymraeg chewch chi ddim, a does 'na ddim cynlluniau i newid hynny, er bod dros ugain o ieithoedd eraill yn cael eu caniatáu.
Daeth cwynion i'r amlwg ar ôl i Tripadvisor wrthod cyhoeddi adolygiad yn Gymraeg gan ymwelwyr i lety gwely a brecwast ym Metws-y-Coed.
Rhagor gan Dafydd Gwynn.