Cyn leidr yn helpu'r heddlu
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori pobl i beidio gadael pethau gwerthfawr yn y golwg yn eu ceir.
Maen nhw'n dechrau ymgyrch i geisio lleihau'r achosion o ddwyn o geir yn yr ardal.
Un sy'n eu helpu gyda'r ymgyrch yw'r cyn droseddwr, Wyn Williams, o Gaernarfon.
Roedd o'n afer torri mewn i geir er mwyn cael arian i brynu cyffuriau.
Bu'n sôn wrth Llyr Edwards pa mor hawdd oedd gwneud hynny.