Dadorchuddio cofeb er cof am fomwyr Yr Ail Ryfel Byd
Mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau fe fydd Y Frenhines yn dadorchuddio cofeb arbennig i'r 55,000 o aelodau'r 'Bomber Command' wnaeth golli eu bywydau yn ystod Yr Ail Ryfel Byd.
Mae cydnabod eu gwaith nhw'n swyddogol wedi bod yn bwnc dadleuol a sensitif gan fod cannoedd o filoedd o bobl gyffredin wedi eu lladd yn ystod eu cyrchoedd yn Yr Almaen.
Nia Thomas gafodd sgwrs gydag un aelod o Bomber command, Rol Williams o Waunfawr ger Caernarfon.
Fe wnaeth gychwyn drwy ofyn iddo a oedd o'n falch bod y seremoni yn cael ei chynnal o'r diwedd.