Cymorth wedi'r llifogydd
Mae nifer o bobl yn dal heb ddychwelyd i'w tai ar ôl llifogydd gogledd Ceredigion fis yn ôl.
Ddydd Llun bydd rhai ohonyn nhw, ynghyd â swyddogion o'r gwasanaethau brys fu yn eu helpu yn cwrdd â'r Tywysog Charles.
Ddydd Sul ym mhentre' Talybont cafodd gŵyl ei chynnal i godi arian i helpu'r bobl a gollodd eiddo dan droedfeddi o ddwr.
Mae £60,000 eisoes wedi ei godi ar gyfer yr apêl.
O Dalybont y daeth adroddiad Craig Duggan ar y Post Cyntaf ddydd Llun.