Gobaith ail agor sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog
Mae 'na flwyddyn a hanner ers i ddrysau sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog gau.
Fe ddigwyddodd hyn oherwydd trafferthion ariannol.
Ond mae 'na obaith newydd i'r atyniad poblogaidd.
Mae gan griw o bobl ifanc weledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol.
Maen nhw wedi cael cefnogaeth perchnogion y Coliseum, sydd wedi rhoi prydles iddyn nhw ar yr adeilad, er mwyn ceisio ail agor.
Nos Fercher bu cyfarfod i drafod y cynllun.
Adroddiad Alun Rhys.