Mudiad iaith i ail-ddyfeisio ei hun
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dathlu'i phen-blwydd yn 50 oed eleni.
Dros y penwythnos fe fydd yna ddathliad mawr ym Mhontrhydfendigaid.
Ers sefydlu'r Gymdeithas mae statws yr iaith wedi newid yn sylweddol.
Ond beth yw'r ffordd ymlaen i'r mudiad?
Garry Owen fu'n trafod gyda Cynog Dafis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn 1965 a'r Cadeirydd presennol Bethan Williams.