BBC Cymru Fyw

Etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn gefnogol i'w Helod Cynulliad

Mae Pwyllgor Etholaeth Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i'w haelod cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.

Cafodd cyfarfod brys ei gynnal neithiwr ar ôl i arweinyddiaeth y blaid sefydlu panel disgyblu.

Roedden nhw yn anfodlon nad oedd e'n bresennol yn y Senedd i bleidleisio ar y cynnig o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd Lesley Griffiths.

Cafodd Alun Rhys ymateb Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar ôl y cyfarfod.