BBC Cymru Fyw

Dicter ffermwyr llaeth

Yng Nghymru a Lloegr mae ffermwyr llaeth wedi bod yn dangos eu dicter ynglŷn â'r prisiau y maen nhw'n ei gael am eu cynnyrch.

Yn Llandeilo nos Iau fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Alun Davies wrth tua 200 o ffermwyr y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau glas ar gyfer y diwydiant llaeth.

Dros y ffin yn Lloegr, bu cannoedd mwy o ffermwyr llaeth yn protestio y tu allan i dair canolfan brosesu.

Nia Thomas fu'n holi Gareth Thomas o Gaerfyrddin a fu yn Bridgewater, Gwlad yr Haf, lle mae 'na un o ganolfannau Robert Wiseman.