Galw am gomisiwn anrhydeddau
Mae pwyllgor o aelodau seneddol yn dweud fod anrhydeddau yn dal i gael eu rhoi i'r un math o bobol, gan gynnwys gweision sifil a sêr y cyfryngau.
Yn ôl y pwyllgor gweinyddiaeth gyhoeddus dylid osgoi rhoi anrhydeddau i bobol am neud eu gwaith bob dydd.
Maen nhw'n argymell sefydlu comisiwn anrhydeddau annibynnol i ystyried enwebiadau.
Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd Paul Flynn yn aelod o'r Pwyllgor.