Treialon cŵn defaid rhyngwladol 2012 ym Mro Morgannwg
Mae treialon cŵn defaid rhyngwladol 2012 yn cael eu cynnal ym Mro Morgannwg.
Ar dir fferm yn Nhresimwn ger Y Bont-faen mae 15 o'r cŵn gorau o'r rowndiau rhanbarthol yn cystadlu am y bencampwriaeth ddiwedd yr wythnos.
Fe fydd cynrychiolaeth o bob un o wledydd Prydain ac Iwerddon.
Enillydd y brif bencampwriaeth unigol y llynedd oedd Eirian Morgan o ardal Aberystwyth.
Pencampwr tîm Cymru eleni a'r capten ydy Arthur Roberts o Bentrefoelas.
Merfyn Davies aeth ato i'w weld yn ymarfer gyda Chip y ci.
- Cyhoeddwyd
- 7 Medi 2012
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Gogledd-Orllewin