Trydedd ysgol Uwchradd Cymraeg yn agod yng Nghaerdydd
Mae trydedd ysgol uwchradd Gymraeg newydd wedi agor yng Nghaerdydd.
Mi fydd Ysgol Bro Edern yn gwasanaethu dwyrain y ddinas.
Ond ar hyn o bryd mae'n rhannu safle ag Ysgol Gyfun Gymraeg Glantâf.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, trefniant dros dro yn unig ydy hyn.
Fe fydd yr ysgol yn symud i safle Ysgol Uwchradd Sant Teilo y flwyddyn nesa.
Mae 71 o ddisgyblion yno ar hyn o bryd.
Gwenfair Griffith fu'n holi'r Pennaeth, Iwan Pritchard, gan ofyn pam bod yn rhaid rhannu safle ar hyn o bryd.