Cadw golwg ar yr heddlu
Mae 'na alw ar heddluoedd Prydain i gadw cofnodion mwy manwl ynglyn â phlismyn sydd yn destun achos disgyblu.
Rhwng 2009 a 2011, fe adawodd o leia' 25 o blismyn yng Nghymru eu swyddi yn ystod ymchwiliad i'w hymddygiad.
Fe all y plismyn yma geisio am swydd gydag un o'r lluoedd eraill heb i ganlyniad yr ymchwiliad ddod i'r amlwg.
Nawr mae arbennigwyr yn y maes cyfraith a threfn wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen i gofnodion achosion disgyblu gael eu rhannu rhwng heddluoedd.
Steffan Messenger fu'n egluro mwy wrth Garry Owen ar y Post Cyntaf ddydd Llun.