Galw am edrych ar ddedfrydau
Fe fydd pwyllgor cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i adolygu achos miloedd o garcharorion yng Nghymru a Lloegr sydd wedi'u dedfrydu i garchar am gyfnodau amhenodol.
Dyna ddywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, sy'n aelod o'r pwyllgor, wrth BBC Cymru. Ar hyn o bryd mae dros 6000 o garcharorion dan glo am gyfnodau amhenodol.
Steffan Powell fu'n egluro mwy wrth Garry Owen ar raglen y Post Cynta fore Mawrth