BBC Cymru Fyw

Dwy wobr i Joe Allen gan Gymeithas Bêl-Droed Cymru

Mae Joe Allen wedi cael ei enwi yn Bêl-droediwr y Flwyddyn ac yn Chwaraewr Clwb Gorau'r Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd y chwaraewr canol cae 22 oed wedi creu argraff yn ystod tymor cynta' Abertawe yn yr uwchgynghrair.

Cafodd ei wobrwyo yng nghinio blynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Gareth Blainey gafodd air efo'r canolwr.