Prinder data am anafiadau chwaraewyr rygbi Cymru
Mae yna ddiffyg dadansoddiad o natur a difrifoldeb anafiadau o fewn y byd rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Mae hyn oherwydd prinder data.
Daeth i'r amlwg mai dim ond ers mis Gorffennaf y mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn casglu gwybodaeth gadarn yn y maes.
Yn Lloegr maen nhw'n cadw ystadegau ers 10 mlynedd.
Ond, ydi rygbi yn mynd yn gêm fwy peryglus?
Nia Thomas fu'n holi cyn-flaenasgellwr y Scarlets a Chymru Dafydd Jones.